Sut ydw i'n tanysgrifio i bodlediad?
Dyma dri ffordd o danysgrifio i bodlediad:
iTunes
Os oes gennych chi feddalwedd iTunes ar eich cyfrifiadur mae'n bosib tanysgrifio drwy ychwanegu cyfeiriad y ffeil XML i'r rhaglen (Dewislen Advanced > Subscribe to Podcast...). Mae rhai sioeau wedi eu cynnwys o fewn siop/cyfeiriadur iTunes a felly mae'n bosib chwilio amdanynt. Drwy danysgrifio, fe fydd iTunes yn llwytho sioeau newydd i'ch cyfrifadur yn otomatig.
Derbynnydd podlediad
Er fod iTunes wedi ei addasu yn ddiweddar i gefnogi podlediadau, mae meddalwedd arbennigol wedi bod ar gael ers tipyn, sydd yn gadael i chi danysgrifio o bodlediad a hyd yn oed ei drosglwyddo'r sioe yn otomatig i'ch iPod neu'ch chwaraewr MP3.
Rydym yn argymell meddalwedd iPodder ond mae digon o ddewis ar gael.
Darllenydd RSS
Os ydych yn defnyddio darllenydd RSS (gweler isod am feddalwedd) er mwyn darllen y negeseuon diweddaraf er eich hoff flogiau, mae'n bosib tanysgrifio i'r ffeil RSS yn union yr un fath. Fe fyddwch wedyn yn gweld dolen er mwyn llwytho lawr ffeil MP3 ar gyfer pob sioe. Fel arfer rhaid copïo a gludo y cyfeiriad i ffeil XML o wefan i fewn i'r darllenydd.
Meddalwedd:
- Bloglines - dyma'r ffordd symlaf a mwya hwylus o danysgrifio i flogiau a phodlediadau, lle mae'n bosib darllen y wybodaeth ar y we. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
- Windows - rydym yn argymell Newz Crawler neu Feed Demon
- Mac - NetNewsWire ond mae iTunes yn haws!
- Linux - Straw neu Liferea.