Cerddoriaeth Cymraeg sydd ar gael i'w brynu ar lein.
Mae MP3s gan fandiau Cymraeg ar nifer o siopau ar lein. Fel arfer rhaid chwilio amdanynt yn ôl enw'r grŵp. Mae'n bosib clywed llawer o draciau Cymraeg am ddim drwy wasanaeth Spotify - ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhain, mae yna fotwm i brynu'r cynnyrch i'w weld o fewn y meddalwedd.
Yn anffodus, dyw e ddim yn ymddangos ei fod hi'n bosib chwilio am labeli ar wasanaeth iTunes na 7digital, ond mae digon o'r cynnyrch ar gael yno - rhaid chwilio yn ôl enw grŵp neu enw albwm. Er hynny mae ychydig o gerddoriaeth Cymraeg wedi eu tagio yno - Cymraeg a Welsh.
Dyma restr o gynnyrch y prif labeli Cymreig ar y gwasanaethau sydd yn hawdd i'w cysylltu iddyn nhw. Mi fydd dolenni Amazon yn eich danfon i'w gwefan tra fydd dolenni Spotify yn agor yn y meddalwedd hynny, os ydynt wedi gosod ar eich cyfrifiadur.
Ankstmusik
Clinigol
Copa
Dockrad
Rasal (Sain)
Recordiau Awen
Recordiau Bos
Recordiau Menai
Recordiau 69 Madog
Sain
Lle mae Sain? Dewch fewn i'r unfed ganrif ar hugain plis! (mae nhw ar iTunes ond ddim unrhywle arall)