Pa bodlediadau Cymraeg sydd ar gael?

Rhestr > Sioeau

Radio Amgen

Mae Radio Amgen yn darlledu sioe newydd bob wythnos. Tanysgrifiwch gyda iTunes neu fe allwch danysgrifio gyda'r ffeil RSS isod:

Recordiau Slacyr

Podlediad o gerddoriaeth gan artistiaid ar label Slacyr

WamBam

Podlediad o sioe Gymraeg Wam Bam gan Huw Thomas ar orsaf radio XpressRadio yng Nghaerdydd.

Radio Cymru

Mae rhaglenni C2 ar Radio Cymru wedi dechrau cynnig podlediad sy'n cynnwys uchafbwyntiau yr wythnos. Ewch i wefan C2 am fwy o wybodaeth neu tanysgrifiwch gyda'r ffeil RSS isod:

Graffiti Cymraeg

Sioe gan Rhys Downing yn chwarae cerddoriaeth podsaff a bandiau lleol. Mae'r blog yn cynnwys gwybodaeth am bob sioe. Tanysgrifiwch gyda iTunes neu fe allwch danysgrifio gyda'r ffeil isod:

Yr Atal Genhedlaeth

Dau sioe gan 'Yr Atal Genhedlaeth' o faes-e sydd newydd ddechrau arbrofi.

Gwglcast

Sioe o wefan Gwgl (ddim i'w gymysgu gyda Google)

Metastwnsh

Dyma sioe gan griw Metastwnsh yn trafod technoleg.

Tanysgrifiwch drwy RSS neu ar iTunes