Beth yw podledu?
Cafodd y term podcast ei fathu i ddisgrifio ffordd o danysgrifio i ddarllediad rheolaidd o gerddoriaeth ar y we. Mae hyn yn estyniad o'r dechnoleg lle mae'n bosib tanysgrifio i flog er mwyn darllen y negeseuon diweddaraf.
Er fod pobl wedi rhoi ffeiliau MP3 a darllediadau radio ar y we ers blynyddoedd mae podledu yn ffordd syml o danysgrifio i wefan rydych yn ei hoffi - fe fydd y sioeau newydd yn cael eu trosglwyddo i'ch cyfrifiadur ac i'ch chwaraewr MP3 yn rheolaidd ac yn di-drafferth heb i chi orfod gwneud dim.
Mi fyddai'n bosib i chi roi ffeiliau sain i fyny ar eich gwefan ac yna hysbysu eich darllenwyr mewn rhyw ffordd fod y ffeiliau newydd ar gael. Mae podledu yn cynnig gwelliant ar hyn - drwy danysgrifio mi fyddwch chi'n derbyn rhifynnau newydd yn union yr un fath a derbyn cylchgrawn yn rheolaidd drwy'r post.
Nawr ewch ymlaen i ddysgu am sut i danysgrifio i bodlediad.